PAPUR BRIFFIO AR Y CYD: Y PWYLLGOR IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A CHWARAEON

23 Hydref 2019

CYNNYDD O RAN DATBLYGU STRATEGAETH GWEITHLU

 

1.    CEFNDIR

 

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yn croesawu’r cyfle i roi’r diweddaraf i’r pwyllgor ynghylch y cynnydd o ran datblygu ‘Cymru Iachach – Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’.

 

2.    CYFLWYNIAD

 

Bydd strategaeth y gweithlu’n ddogfen alluogi allweddol o safbwynt gwireddu’r uchelgais o gael ‘Cymru Iachach’, ar gyfer system iechyd a gofal cymdeithasol ddi-dor, a gyflawnir trwy gyfrwng gweithlu ymroddedig a brwd sy’n gymwys, yn cael ei werthfawrogi, yn hyblyg, yn hyddysg yn ddigidol, ac yn gallu ymateb mewn modd ystwyth i gyfleoedd a heriau’r dyfodol.

 

Mae llawer wedi cael ei wneud ers i gynrychiolwyr y ddau sefydliad gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 23 Ionawr 2019. Ceir mwy o fanylion isod.

 

3.    YR UCHELGAIS

 

Prif nod y strategaeth fydd sicrhau’r canlynol erbyn 2030:

·         Bod y gweithlu iawn gennym er mwyn gallu darparu system iechyd a gofal cymdeithasol hyblyg ac ystwyth sy’n cwrdd ag anghenion trigolion Cymru.

·         Bod gennym weithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, yr iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol, gyda’r gwerthoedd, yr ymddygiad, y sgiliau a’r hyder priodol ar gyfer darparu gofal a chefnogi llesiant pobl mor agos i’w cartrefi â phosibl.

·         Bod gennym weithlu sy’n teimlo’i fod yn cael ei werthfawrogi.

 

 

4.    Y DULL

 

4.1. Trefniadau’r Grŵp Llywio

 

Mae proses lywodraethu gadarn ar waith i gynorthwyo cysylltiadau gweithio effeithiol a chadarnhaol rhwng AaGIC, GCC a phartneriaid. Caiff grŵp llywio ei gadeirio ar y cyd gan Brif Swyddogion Gweithredol pob sefydliad. Mae’r grŵp llywio hwn yn cynnwys aelodau o blith rhanddeiliaid allweddol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a swyddogion Llywodraeth Cymru, a’i bwrpas yw goruchwylio’r cynnydd. Mae gweithio agos rhwng AaGIC a GCC wedi meithrin cysylltiadau gweithio iach rhwng unigolion ac ar lefel broffesiynol, ynghyd â dealltwriaeth ddyfnach o’r sectorau a’r sefydliadau, yn ogystal ag agendâu unigol ac agendâu ar y cyd.

 

4.2. Ymgysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd

 

Caiff ein hymrwymiad pendant i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ei arddangos gan ein proses ymgysylltu gynhwysol i lywio datblygiad y strategaeth. Mae’r partneriaid wedi cael eu hannog i gyfrannu trwy gyfrwng dulliau amrywiol, yn cynnwys cyfweliadau un-i-un, digwyddiadau i randdeiliaid, cyfarfodydd ar gyfer cyfoedion, gweminarau ac ar-lein. Roedd y digwyddiadau ymgysylltu ffurfiol yn cynnwys mwy na 1000 o bobl ar draws y grwpiau rhanddeiliaid i gyd.

 

Dyfarnwyd y tendr ar gyfer cynorthwyo i gyflawni’r rhaglen hon i’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (Prifysgol Brooks Rhydychen). Rydym wedi rhoi dull 7 cam ar waith wrth ddatblygu’r strategaeth:

 

1.    Cynnal dadansoddiad rhagarweiniol o’r gweithlu a’i heriau allweddol;

2.    Sganio’r gorwel o ran bwriad deddfwriaethol a bwriad polisi, yn awr ac yn y dyfodol, mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol;

3.    Ymgysylltu ag amrywiaeth eang o asiantaethau a chyrff cynrychiadol;

4.    Datblygu egwyddorion a chamau gweithredu allweddol a fydd yn llywio’r strategaeth;

5.    Ymgynghori’n ffurfiol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid;

6.    Datblygu dogfennau technegol i ategu’r strategaeth derfynol;

7.    Cyhoeddi strategaeth derfynol.

 

Diagnostics and engagement

Diagnosteg ac ymgysylltu

Drafting – May & June

Drafftio – Mai a Mehefin

Consultation – July-September

Ymgynghori – Gorffennaf-Medi

Review & refine – September-October

Adolygu a chaboli – Medi-Hydref

Awareness raising

Codi ymwybyddiaeth

Final strategy November

Strategaeth derfynol Tachwedd

 

Her allweddol wrth ddatblygu’r strategaeth hon yw cyflymder a maint y newidiadau y disgwylir eu gweld yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Er enghraifft, rôl gynyddol technolegau digidol a thechnolegau eraill, effaith Brexit, anghenion cyfnewidiol y boblogaeth, a disgwyliadau cyfnewidiol ein staff presennol a’n staff yn y dyfodol.

 

Cafodd y ddogfen ymgynghori a’r deunyddiau ategol eu datblygu trwy ddefnyddio adborth a gafwyd yn ystod y cam diagnostig a’r cam ymgysylltu. Roedd hyn yn cynnwys:

·         14 gweithdy ar draws Cymru a ddenodd 401 o bobl

·         2 weminar a ddenodd 20 o bobl

·         Arolwg ar-lein a arweiniodd at 512 o ymatebion

·         Cynnal 33 o gyfweliadau pellach gyda 38 o bobl

·         Mynychu 38 o gyfarfodydd gyda chyfoedion a chyfarfodydd proffesiynol a oedd yn cynnwys mwy na 350 o bobl i gyd

Cafodd ein cynnig y dylai strategaeth y gweithlu gwmpasu’r gweithlu cyflogedig a gweithlu’r trydydd sector, ynghyd â gwirfoddolwyr a gofalwyr sy’n darparu gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth i’n poblogaeth, gefnogaeth helaeth. Roedd yn amlwg ar sail y gwaith ymgysylltu cynnar a’r adborth a gafwyd y dylai gwella llesiant ein gweithlu fod yn ymrwymiad sylfaenol drwy gydol y strategaeth. Yn ogystal â hyn, daeth saith o themâu i’r amlwg dro ar ôl tro:

Gwerthfawrogi a dal gafael ar ein gweithlu: Creu gweithlu sefydlog sy’n teimlo’i fod yn cael ei werthfawrogi, gan adlewyrchu hyn trwy wobrwyo a chydnabod, yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu.

Gweithio di-dor:Gweithio amlbroffesiynol ac amlasiantaeth, er mwyn cyflawni gwasanaethau rhagorol i ategu modelau newydd sy’n canolbwyntio ar unigolion.

Digidol: Datblygu gallu digidol y gweithlu er mwyn gallu gwneud y gorau o’r ffordd yr ydym yn gweithio, a’r ffordd yr ydym yn dysgu.

Denu a recriwtio:Sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol fel brand ag enw da, a’r dewis sector ar gyfer ein gweithlu.

Addysg a dysgu: Sicrhau gweithlu cymwys, galluog a hyderus, lle mae aelodau’r gweithlu’n cael eu cynorthwyo i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth, yn awr ac yn y dyfodol, ac i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Dull arwain:Datblygu dull arwain tosturiol gan ganolbwyntio ar wella ansawdd.

Ffurf y gweithlu: Sicrhau gweithlu hyblyg a chynaliadwy gyda niferoedd digonol i gwrdd ag anghenion.

 

Yn ystod y cam cychwynnol cawsom gyfraniadau lu at y prosiect, llawer o sylwadau ac adborth, a llwyddwyd i bennu’r heriau. Fodd bynnag, roedd nifer y cynigion pendant ar gyfer camau gweithredu a fyddai’n gwireddu’r uchelgais yn gyfyngedig, felly gwnaethom benderfynu paratoi dogfen ymgynghori i brofi’r gefnogaeth ar gyfer y saith thema. Hefyd, gyda’n partneriaid aethom ati i ddatblygu rhai blaenoriaethau a chamau gweithredu arfaethedig, gydag amserlenni’n gysylltiedig â’r themâu, a chafodd y rhain eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori.

 

4.3. Yr Ymgynghoriad

 

Cafodd yr ymgynghoriad ei roi ar waith ar 23 Gorffennaf 2019 a daeth i ben ar 18 Medi 2019. Cafwyd ymgysylltu pellach yn ystod y cyfnod hwn, ar ffurf gweithdai, gweminarau a mynychu cyfarfodydd allweddol a oedd yn cynnwys 350 o bobl yn ychwaneg. Cafodd ymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad eu cyflwyno ar-lein, a rhoddwyd trefniadau ar waith i dderbyn ymatebion trwy gyfrwng tîm cyfathrebu AaGIC, ar gyfer pobl a oedd wedi cael trafferth defnyddio’r fersiwn ar-lein. Cymerodd y ddau sefydliad ran mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a chyfarfodydd lleol a chenedlaethol. Roedd y rhain yn cynnwys Fforwm Partneriaeth GIG Cymru, Tîm Gweithredol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, y Grŵp Arwain Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol a Fforwm Myfyrwyr Cymru. Ymhellach, trefnwyd cyfarfodydd gyda sefydliadau fel Cymdeithas yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg lle bu modd inni gynnig sicrwydd ynglŷn â’n hymrwymiad i sicrhau bod y Gymraeg a chynhwysiant y gweithlu’n greiddiol i’r strategaeth.

Roedd y ddogfen ymgynghori a’r cwestiynau ategol yn amlinellu’r achos dros newid a’n hymrwymiad i ganolbwyntio ar lesiant ein gweithlu sy’n adlewyrchu nod pedwarplyg ‘Cymru Iachach’ a chasgliadau’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd yn pwysleisio hefyd ein bod yn parhau i wrando a bod cyfle sylweddol i ddylanwadu ar gynnwys terfynol y strategaeth.

Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, roedd 138 o ymatebion ar-lein wedi’u derbyn, a chydag ymatebion ychwanegol, disgwylir i’r cyfanswm fod oddeutu 170. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu defnyddio i lywio’r strategaeth ddrafft.

4.4. Blaenoriaethau ar gyfer y strategaeth ddrafft yn dilyn yr ymgynghoriad ffurfiol

 

Fel y nodir uchod, cawsom nifer helaeth o ymatebion, ac ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn mae’r rhain wrthi’n cael eu hystyried. Byddem yn falch o rannu ein dadansoddiad gyda’r Pwyllgor pan fyddwn yn cyfarfod. Ond dyma’r materion y sylwyd arnynt yn gynnar yn y broses:

 

Tynnodd y saith thema a ddeilliodd o’r cam ymgysylltu cychwynnol sylw at yr angen i bennu blaenoriaethau cynnar yn glir yn y strategaeth. Cafodd rhai o’r rhain eu trafod pan wnaethom gyfarfod â’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2019. At ei gilydd cafodd y themâu gefnogaeth gan yr ymatebwyr, a hefyd y dull.

 

Drwy gydol y cyfnod ymgysylltu clywsom pa mor bwysig yw gwerthfawrogi a chefnogi llesiant ein gweithlu. Mae hyn wedi’i ategu trwy’r ymgynghoriad diweddar a chaiff gefnogaeth frwd ymhlith yr ymatebwyr. Felly, bydd hyn yn sail i bob elfen o’r strategaeth a’i chynlluniau gweithredu dilynol.

 

Clywsom fod parch cydradd, yn ddi-os, yn hollbwysig. Tra mae hyn yn cynnwys y gwahaniaethau mewn cyflog rhwng contractwyr gofal cymdeithasol annibynnol, trefniadau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol a’r gwahaniaethau dilynol gyda’r GIG, rydym yn cydnabod y bydd angen i’r strategaeth a/neu’r cynllun gweithredu dilynol gwmpasu’r holl fuddion, yn cynnwys datblygu gyrfa, arferion cyflogaeth ac ati.

 

Mae data’n ymwneud â’n gweithlu mewn ambell faes yn fanwl a chadarn iawn, yn enwedig o safbwynt cofnod staff electronig y GIG; ond mewn meysydd eraill, fel gofal sylfaenol, mae llawer o waith i’w wneud. Mae data’n ymwneud â’r gweithlu’n hanfodol ar gyfer gwella’r dasg o gynllunio’r gweithlu.

 

Bydd gwella ein gwybodaeth am ein gweithlu yn arwain at ddull cadarnach o wneud penderfyniadau ynglŷn â ffurf y gweithlu, gan ddod o hyd i faterion sylfaenol yn fwy effeithiol, er enghraifft o ran model y gweithlu, prinder pobl neu fylchau mewn sgiliau. Mae hefyd yn gwella cyfleoedd i ganolbwyntio ar rolau seiliedig ar gymwyseddau a chaiff hyn ei gefnogi gan fynediad at ddarpariaeth addysg hyblyg a’i ategu ag angen i sicrhau bod ein cynnig o ran gyrfaoedd a’n gwybodaeth ategol yn cwrdd ag anghenion pobl o bob oed ac ym mhob cyfnod o’u bywydau.

 

 

 

 

5.    Y CAMAU NESAF

 

Bydd y gwaith drafftio’n dechrau cyn bo hir a bydd yn gwneud defnydd helaeth o’r adborth a gafwyd yn sgil yr ymgynghoriad. Bydd y strategaeth ddrafft yn cael ei chymeradwyo gan y grŵp llywio, cyn cael ei chymeradwyo’n derfynol gan Fyrddau AaGIC a GCC a’i chyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yn amodol ar drafod gyda Llywodraeth Cymru, bydd y strategaeth yn cael ei lansio’n dawel yn y parth cyhoeddus, cyn cael ei lansio’n ffurfiol yn ddiweddarach yn y Flwyddyn Newydd. Bydd angen i’r gwaith o gyflawni strategaeth y gweithlu gydweddu â rhaglenni eraill Llywodraeth Cymru, yn cynnwys Rhaglen Drawsnewid ‘Cymru Iachach’ a’r Cynllun Clinigol Cenedlaethol.

 

Fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori, bwriad y strategaeth yw pennu’r cyfeiriad ar gyfer y deg mlynedd nesaf. Bydd yn nodi rhai camau gweithredu clir ar lefel uchel a bydd yn cael ei hategu gan gyfres o gynlluniau gweithredu. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â phwy fydd yn gyfrifol am arwain y cam gweithredu.